5 Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”
6 Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,
7 daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.
8 Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn?
9 Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion.”
10 Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
11 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.