55 A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi.
56 Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi.” Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
57 Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd.
58 Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd.
59 Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth,
60 ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen
61 a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ”