65 Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.
66 Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.”
67 Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef
68 a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?”
69 Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.”
70 Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.”
71 Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.”