1 Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
2 Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:
3 “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4 Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,oherwydd cânt hwy eu cysuro.
5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn,oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
6 Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,oherwydd cânt hwy eu digon.