7 Gwyn eu byd y rhai trugarog,oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
8 Gwyn eu byd y rhai pur eu calon,oherwydd cânt hwy weld Duw.
9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10 Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11 “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
12 Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
13 “Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed.