14 “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.
15 Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
16 “A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch â bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
17 Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb,
18 fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.
19 “Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.
20 Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.