7 Ac wrth weddïo, peidiwch â phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.
8 Peidiwch felly â bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion.
9 Felly, gweddïwch chwi fel hyn:“ ‘Ein Tad yn y nefoedd,sancteiddier dy enw;
10 deled dy deyrnas;gwneler dy ewyllys,ar y ddaear fel yn y nef.
11 Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
12 a maddau inni ein troseddau,fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
13 a phaid â'n dwyn i brawf,ond gwared ni rhag yr Un drwg.’