9 Felly, gweddïwch chwi fel hyn:“ ‘Ein Tad yn y nefoedd,sancteiddier dy enw;
10 deled dy deyrnas;gwneler dy ewyllys,ar y ddaear fel yn y nef.
11 Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
12 a maddau inni ein troseddau,fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
13 a phaid â'n dwyn i brawf,ond gwared ni rhag yr Un drwg.’
14 “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.
15 Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.