1 Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef.
2 A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.”
3 Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
4 Meddai Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”
5 Ar ôl iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad ato ac erfyn arno: