17 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:“Ef a gymerodd ein gwendidauac a ddug ymaith ein clefydau.”
18 Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw.
19 Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.”
20 Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”
21 Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”
22 Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.”
23 Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef.