1 Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun.
2 A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.”
3 A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.”
4 Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, “Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau?
5 Oherwydd p'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’?