26 Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.
27 Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.”
28 Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.”
29 Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.”
30 Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”
31 Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.
32 Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.