29 Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.”
30 Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”
31 Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.
32 Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.
33 Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.”
34 Ond dywedodd y Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”
35 Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.