10 Dyma benaethiaid Dafydd, a aeth yn fwy a mwy nerthol gydag ef yn ystod ei deyrnasiad, ac a ymunodd gyda holl Israel i'w wneud ef yn frenin ar Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD.
11 Dyma restr y gwroniaid oedd gan Ddafydd. Jasobeam fab Hachmoni oedd capten y Deg ar Hugain; chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben tri chant o wŷr a laddodd ar un tro.
12 Y nesaf ato ef ymysg y tri gwron oedd Eleasar fab Dodo, yr Ahohiad;
13 bu ef gyda Dafydd yn Pasdammim, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, pan ymgasglodd y Philistiaid yno i ryfel ac y ffodd y bobl rhagddynt.
14 Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
15 Aeth tri o'r Deg ar Hugain o benaethiaid i lawr at Ddafydd i'r graig ger ogof Adulam, pan oedd mintai o Philistiaid yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
16 Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.