1 Cronicl 8 BCND

Disgynyddion Benjamin

1 Benjamin oedd tad Bela ei gyntafanedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,

2 Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.

3 Meibion Bela: Adar, Gera, Abihud,

4 Abisua, Naaman, Ahoa,

5 Gera, Seffuffan a Huram.

6 Dyma feibion Ehud, a oedd yn bennau-teuluoedd preswylwyr Geba, ac a gaethgludwyd i Manahath:

7 Naaman, Aheia a Gera a fu'n gyfrifol am y gaethglud, ac ef oedd tad Ussa ac Ahihud.

8 Ef hefyd oedd tad Saharaim, a anwyd iddo yng ngwlad Moab ar ôl iddo anfon ymaith ei wragedd Husim a Baara.

9 O Hodes ei wraig ganwyd iddo Jobab, Sibia, Mesa, Malcham,

10 Jeus, Sabia, Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau-teuluoedd i gyd.

11 O Husim ganwyd iddo Ahitub ac Elpaal.

12 Meibion Elpaal: Eber, Misam, Samed, a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi;

13 Bereia a Sema, pennau-teuluoedd preswylwyr Ajalon, a fu'n ymlid trigolion Gath;

14 Ahïo, Sasac, Jeremoth,

15 Sebadeia, Arad, Ader,

16 Michael, Ispa, Joha, meibion Bereia;

17 Sebadeia, Mesulam, Heseci, Heber,

18 Ismerai, Jeslïa, Jobab, meibion Elpaal;

19 Jacim, Sichri, Sabdi,

20 Elienai, Silthai, Eliel,

21 Adaia, Beraia, Simrath, meibion Simei;

22 Ispan, Heber, Eliel,

23 Abdon, Sichri, Hanan,

24 Hananeia, Elam, Antotheia,

25 Iffedeia, Penuel, meibion Sasac;

26 Samserai, Sehareia, Athaleia,

27 Jareseia, Eleia, Sichri, meibion Jeroham.

28 Yr oedd y rhain yn byw yn Jerwsalem ac yn bennau-teuluoedd a phenaethiaid yn ôl eu rhestrau.

29 Yr oedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,

30 a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Nadab,

31 Gedor, Ahïo, Sacher,

32 a Micloth tad Simea; yr oeddent yn byw gyda'u perthnasau yn Jerwsalem.

Teulu'r Brenin Saul

33 Ner oedd tad Cis, Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.

34 Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha.

35 Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas.

36 Ahas oedd tad Jehoada, Jehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; Simri oedd tad Mosa;

37 Mosa oedd tad Binea; Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

38 Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.

39 Meibion Esec ei frawd ef oedd Ulam ei gyntafanedig, Jehus yr ail, Eliffelet y trydydd.

40 Yr oedd meibion Ulam yn ddynion abl ac yn saethyddion, ac yr oedd ganddynt gant a hanner o feibion ac wyrion. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Benjamin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29