1 Cronicl 24 BCND

Gwaith yr Offeiriaid

1 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

2 Bu farw Nadab ac Abihu yn ddi-blant, a'u tad eto'n fyw; felly daeth Eleasar ac Ithamar yn offeiriaid.

3 Gyda chymorth Sadoc o feibion Eleasar ac Ahimelech o feibion Ithamar, gosododd Dafydd hwy yn eu swyddi ar gyfer eu gwasanaeth.

4 Gan fod mwy o ddynion blaenllaw ymysg meibion Eleasar na meibion Ithamar, rhannwyd hwy fel hyn: o feibion Eleasar, un ar bymtheg o bennau-teuluoedd, ac o feibion Ithamar, wyth.

5 Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar.

6 Cofrestrwyd eu henwau gan Semaia fab Nathaneel, ysgrifennydd o lwyth Lefi, yng ngŵydd y brenin, y swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dewiswyd un teulu o feibion Eleasar ac un o feibion Ithamar.

7 Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Jehoiarib, yr ail ar Jedaia,

8 y trydydd ar Harim, y pedwerydd ar Seorim,

9 y pumed ar Malcheia, y chweched ar Mijamin,

10 y seithfed ar Haccos, yr wythfed ar Abeia,

11 y nawfed ar Jesua, y degfed ar Sechaneia,

12 yr unfed ar ddeg ar Eliasib, y deuddegfed ar Jacim,

13 y trydydd ar ddeg ar Huppa, y pedwerydd ar ddeg ar Jesebeab,

14 y pymthegfed ar Bilga, yr unfed ar bymtheg ar Immer,

15 yr ail ar bymtheg ar Hesir, y deunawfed ar Affses,

16 y pedwerydd ar bymtheg ar Pethaheia, yr ugeinfed ar Jehesecel,

17 yr unfed ar hugain ar Jachin, yr ail ar hugain ar Gamul,

18 y trydydd ar hugain ar Delaia, y pedwerydd ar hugain ar Maaseia.

19 Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i dŷ Dduw yn ôl y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel.

Rhestr o'r Lefiaid

20 Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia;

21 o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf;

22 o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath.

23 Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.

24 O feibion Ussiel: Micha; o feibion Micha: Samir.

25 Brawd Micha oedd Issia. O feibion Issia: Sechareia.

26 Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Jaasei: Beno.

27 Meibion Merari trwy Jaaseia: Beno, Soham, Saccur ac Ibri.

28 O Mahli: Eleasar, a oedd yn ddi-blant.

29 O Cis, meibion Cis: Jerahmeel.

30 Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth. Y rhain oedd y Lefiaid yn ôl eu teuluoedd.

31 Ac yn union fel y gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, fe fwriodd yr hen a'r ifanc goelbrennau yng ngŵydd y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29