1 Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel.
2 Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid.
3 Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain.
4 O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,
5 pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.
6 Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.
7 Meibion Gerson: Ladan a Simei.
8 Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri.
9 Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan.
10 Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei,
11 Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.
12 Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar.
13 Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth.
14 Ond yr oedd meibion Moses, gŵr Duw, i'w cyfrif ymhlith llwyth Lefi.
15 Meibion Moses: Gersom ac Elieser.
16 Meibion Gersom: Sebuel yn gyntaf.
17 Meibion Elieser: Rehabia yn gyntaf; nid oedd ganddo feibion eraill, ond yr oedd meibion Rehabia yn niferus iawn.
18 Meibion Ishar: Selomith yn gyntaf.
19 Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.
20 Meibion Ussiel: Micha yn gyntaf a Jeseia yn ail.
21 Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Mahli: Eleasar a Cis.
22 Bu farw Eleasar; nid oedd ganddo feibion, dim ond merched, a phriododd eu cefndyr, meibion Cis, â hwy.
23 Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth, tri.
24 Dyma feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn ôl eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tŷ'r ARGLWYDD,
25 oherwydd i Ddafydd ddweud, “Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth,
26 nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer.”
27 Yn ôl geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo.
28 Eu dyletswydd oedd cynorthwyo meibion Aaron yng ngwasanaeth tŷ'r ARGLWYDD, gofalu am y cynteddau a'r ystafelloedd, puro popeth sanctaidd ac ymgymryd â gwasanaeth tŷ Dduw.
29 Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau.
30 Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD.
31 Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu ŵyl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef.
32 Yr oeddent i oruchwylio pabell y cyfamod a'r cysegr, a gweini ar eu brodyr, meibion Aaron, wrth iddynt wasanaethu yn nhŷ'r ARGLWYDD.