1 Cronicl 16 BCND

1 Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw.

2 Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD,

3 a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wŷr a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin.

4 Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffáu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel:

5 Asaff yn gyntaf, ac ar ei ôl ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau.

6 Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.

Emyn o Fawl

7 Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:

8 Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw,gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

9 Canwch iddo, moliannwch ef,dywedwch am ei holl ryfeddodau.

10 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd,llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.

11 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.

12 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,

13 chwi ddisgynyddion Israel, ei was,chwi blant Jacob, ei etholedig.

14 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.

15 Cofiwch ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,

16 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac,

17 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,

18 a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”

19 Pan oeddech yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,

20 yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,

21 ni adawodd i neb eich darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,

22 a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”

23 Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.

24 Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

25 Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

26 Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

27 Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a llawenydd yn ei fangre ef.

28 Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

29 rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch o'i flaen.Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.

30 Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear;yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.

31 Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear,a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”

32 Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.

33 Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llaweno flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.

34 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

35 Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth;cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd,inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaiddac ymhyfrydu yn dy fawl.”

36 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.A dywedodd yr holl bobl, “Amen”, a moli'r ARGLWYDD.

Addoli yn Jerwsalem a Gibeon

37 A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn ôl gofynion pob dydd.

38 Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion.

39 Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon,

40 i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel.

41 Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth.

42 Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.

43 Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29