1 Cronicl 14 BCND

Gweithgarwch Dafydd yn Jerwsalem

1 Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd, seiri maen a seiri coed i adeiladu tŷ iddo.

2 Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a bod ei frenhiniaeth wedi ei dyrchafu'n uchel er mwyn ei bobl Israel.

3 Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched.

4 Dyma enwau'r plant a gafodd yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon,

5 Ibhar, Elisua, Elpalet,

6 Noga, Neffeg, Jaffia,

7 Elisama, Beeliada ac Eliffelet.

Trechu'r Philistiaid

8 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.

9 Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

10 gofynnodd Dafydd i Dduw, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law.”

11 Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, “Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion â'm llaw i.” Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.

12 A phan adawsant eu duwiau ar ôl yno, gorchmynnodd Dafydd eu llosgi â thân.

13 Unwaith eto ymledodd y Philistiaid dros y dyffryn.

14 Pan ymofynnodd Dafydd â Duw drachefn, dywedodd Duw wrtho, “Paid â mynd i fyny ar eu hôl; dos ar gylch oddi wrthynt, a thyrd arnynt gyferbyn â'r morwydd.

15 Yna pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos allan i ryfel, oherwydd bydd Duw yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid.”

16 A gwnaeth Dafydd fel y gorchmynnodd Duw iddo, ac fe drawsant wersyll y Philistiaid o Gibeon hyd Geser.

17 Ac aeth enw Dafydd drwy'r gwledydd i gyd, a gwnaeth yr ARGLWYDD i'r holl genhedloedd ei ofni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29