1 Dyma ddosbarthiadau'r porthorion. O'r Corahiaid; Meselemia fab Core, o feibion Asaff.
2 O feibion Meselemia: Sechareia y cyntafanedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd,
3 Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed.
4 O feibion Obed-edom: Semaia y cyntafanedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, Sachar y pedwerydd, Nethaneel y pumed,
5 Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed; oherwydd yr oedd Duw wedi ei fendithio.
6 I'w fab Semaia ganwyd meibion a ddaeth yn arweinwyr eu teulu am eu bod yn ddynion galluog iawn.
7 Meibion Semaia: Othni, Reffael, Obed, Elsabad a'i frodyr Elihu a Semachei, gwŷr galluog.
8 Disgynyddion Obed-edom oedd y rhain i gyd, ac yr oeddent hwy a'u meibion a'u brodyr yn ddynion galluog ac yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, chwe deg a dau ohonynt.
9 O feibion a brodyr Meselemia, dynion galluog: deunaw.
10 O feibion Hosa y Merariad: Simri yn gyntaf (er nad ef oedd y cyntafanedig, gwnaeth ei dad ef yn gyntaf),
11 Hilceia yn ail, Tebaleia yn drydydd, Sechareia yn bedwerydd; yr oedd meibion a brodyr Hosa yn dri ar ddeg i gyd.
12 Trwy'r rhain, y dynion mwyaf blaenllaw, yr oedd gan ddosbarthiadau'r porthorion ddyletswyddau ynglŷn â gwasanaeth yn nhŷ yr ARGLWYDD gyda'u brodyr.
13 Bwriasant goelbrennau ar gyfer y pyrth yn ôl eu teuluoedd, ifanc a hen fel ei gilydd.
14 Syrthiodd y coelbren am borth y dwyrain ar Selemeia. Yna bwriasant goelbrennau dros ei fab Sechareia, a oedd yn gynghorwr deallus, a chafodd yntau borth y gogledd.
15 Cafodd Obed-edom borth y de, a'i feibion yr ystordy.
16 Cafodd Suppim a Hosa borth y gorllewin gyda phorth Salecheth ar y briffordd uchaf.
17 Yr oedd y gwylwyr yn cyfnewid â'i gilydd: chwech bob dydd ym mhorth y dwyrain, pedwar bob dydd ym mhorth y gogledd, a phedwar bob dydd ym mhorth y de, dau yr un ar gyfer yr ystordai,
18 ac ar gyfer y glwysty gorllewinol, pedwar ar y briffordd a dau i'r glwysty ei hun.
19 Y rhain oedd dosbarthiadau'r porthorion o blith meibion Cora a meibion Merari.
20 Eu brodyr y Lefiaid oedd yn gofalu am drysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.
21 O feibion Ladan, a oedd yn Gersoniaid trwy Ladan ac yn bennau-teuluoedd i Ladan y Gersoniad: Jehieli.
22 O feibion Jehieli: Setham a Joel ei frawd; hwy oedd yn gyfrifol am drysordai tŷ'r ARGLWYDD.
23 O'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid:
24 Sebuel fab Gersom, fab Moses oedd yn bennaeth ar y trysordai.
25 Ei berthnasau ef trwy Eleasar: Rehabia ei fab, Jeseia ei fab, Joram ei fab, Sichri ei fab a Selomoth ei fab.
26 Y Selomoth hwn a'i frodyr oedd yn gofalu am holl drysordai'r pethau sanctaidd a gysegrodd y Brenin Dafydd, y pennau-teuluoedd, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion y fyddin.
27 Yr oeddent hwy wedi cysegru rhan o'r ysbail rhyfel er mwyn cynnal tŷ'r ARGLWYDD.
28 Yr oedd y cwbl a gysegrodd Samuel y gweledydd, Saul fab Cis, Abner fab Ner a Joab fab Serfia—hynny yw, popeth cysegredig—yng ngofal Selomoth a'i frodyr.
29 O'r Ishariaid: Cenaneia a'i feibion oedd yn gweithredu fel swyddogion a barnwyr ar Israel mewn materion y tu allan i'r deml.
30 O'r Hebroniaid: Hasabeia a'i frodyr, mil saith gant o ddynion galluog, oedd yn arolygu gwaith yr ARGLWYDD a gwasanaeth y brenin yn Israel y tu hwnt i'r Iorddonen.
31 O'r Hebroniaid: Jereia yn gyntaf. Yn neugeinfed flwyddyn teyrnasiad Dafydd chwiliwyd achau'r Hebroniaid, a chafwyd bod dynion galluog iawn yn eu mysg yn Jaser Gilead.
32 Yr oedd gan Jereia ddwy fil saith gant o berthnasau yn bennau-teuluoedd ac yn ddynion galluog. A dewisodd y Brenin Dafydd hwy i arolygu'r Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse mewn materion yn ymwneud â Duw ac â'r brenin.