3 Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth Dafydd gyfamod â hwy yno gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Samuel.
4 Pan aeth Dafydd a holl Israel i Jerwsalem (hynny yw, Jebus, lle'r oedd y Jebusiaid, trigolion y wlad, yn byw)
5 dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, “Ni chei ddod i mewn yma.” Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd,
6 a dywedodd, “Caiff y cyntaf i daro'r Jebusiaid ei wneud yn ben swyddog.” Y cyntaf i fynd i fyny oedd Joab fab Serfia; felly cafodd ei wneud yn ben.
7 Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd.
8 Adeiladodd y ddinas oddi amgylch o'r Milo yn gylch cyfan, tra oedd Joab yn adnewyddu gweddill y ddinas.
9 Cynyddodd Dafydd fwyfwy oherwydd bod ARGLWYDD y Lluoedd gydag ef.