20 Y rhain oedd y gwŷr o Manasse a ddaeth ato pan oedd ar y ffordd i Siclag: Adna, Josabad, Jediael, Michael, Josabad, Elihu a Silthai, penaethiaid miloedd ym Manasse.
21 Buont hwy o gymorth i Ddafydd yn erbyn yr ysbeilwyr am eu bod i gyd yn wŷr nerthol ac yn gapteiniaid yn y fyddin.
22 Beunydd yr oedd rhai yn dod i gynorthwyo Dafydd, nes bod y gwersyll wedi tyfu'n un mawr iawn.
23 Dyma nifer penaethiaid y lluoedd arfog a ddaeth at Ddafydd yn Hebron i roi brenhiniaeth Saul iddo, yn ôl gair yr ARGLWYDD:
24 o feibion Jwda a gludai darian a gwaywffon, chwe mil wyth gant yn y lluoedd arfog;
25 o feibion Simeon, dynion nerthol i ryfel, saith mil un cant;
26 o feibion Lefi, pedair mil chwe chant,