9 Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,
10 gofynnodd Dafydd i Dduw, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law.”
11 Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, “Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion â'm llaw i.” Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.
12 A phan adawsant eu duwiau ar ôl yno, gorchmynnodd Dafydd eu llosgi â thân.
13 Unwaith eto ymledodd y Philistiaid dros y dyffryn.
14 Pan ymofynnodd Dafydd â Duw drachefn, dywedodd Duw wrtho, “Paid â mynd i fyny ar eu hôl; dos ar gylch oddi wrthynt, a thyrd arnynt gyferbyn â'r morwydd.
15 Yna pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos allan i ryfel, oherwydd bydd Duw yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid.”