1 Wedi hyn bu farw Nahas brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab yn frenin yn ei le.
2 Dywedodd Dafydd, “Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi.” Felly anfonodd negeswyr i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid at Hanun i'w gysuro,
3 dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun, “A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r wlad a'i hysbïo a'i goresgyn y daeth ei weision atat?”
4 Yna cymerodd Hanun weision Dafydd a'u heillio, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon hwy ymaith.