12 A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
13 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.”
14 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.
15 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai ei frawd, a mynd i'r ddinas. Yna dychwelodd Joab i Jerwsalem.
16 Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, anfonasant negeswyr i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, gyda Sobach, pencapten byddin Hadadeser, yn eu harwain.
17 Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod atynt a sefyll yn rhengoedd yn eu herbyn. Trefnodd rengoedd yn erbyn y Syriaid, a brwydrasant hwythau yn ei erbyn.
18 Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith mil o wŷr cerbyd a deugain mil o wŷr traed, a hefyd Sobach y pencapten.