9 Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, ac yr oedd y brenhinoedd, a oedd wedi dod, ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.
10 Pan welodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl, dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu mewn rhengoedd i wynebu'r Syriaid.
11 Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a safasant yn rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.
12 A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
13 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.”
14 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.
15 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai ei frawd, a mynd i'r ddinas. Yna dychwelodd Joab i Jerwsalem.