20 Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, “Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw.” Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin.
21 Trannoeth aberthasant i'r ARGLWYDD ac offrymu iddo boethoffrymau, sef mil o ychen, mil o hyrddod, mil o ŵyn, ynghyd â'u diodoffrymau a llawer iawn o aberthau dros holl Israel.
22 Buont yn bwyta ac yn yfed o flaen yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw â llawenydd mawr. Gwnaethant Solomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith, a'i eneinio ef yn arweinydd i'r ARGLWYDD, a Sadoc yn offeiriad.
23 Felly eisteddodd Solomon ar orsedd yr ARGLWYDD yn frenin yn lle Dafydd ei dad; cafodd lwyddiant, a bu holl Israel yn ufudd iddo.
24 Rhoddodd yr holl swyddogion a'r rhyfelwyr, a phob un o feibion y Brenin Dafydd, wrogaeth i'r Brenin Solomon.
25 Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.
26 Teyrnasodd Dafydd fab Jesse ar Israel gyfan am ddeugain mlynedd;