15 cymerodd Machir wraig i Huppim a Suppim, ac enw ei chwaer oedd Maacha. Enw'r ail fab oedd Salffaad, ac yr oedd ganddo ef ferched.
16 Cafodd Maacha gwraig Machir fab, ac enwodd ef yn Peres a'i frawd yn Seres. Ei feibion ef oedd Ulam a Racem.
17 Mab Ulam: Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18 Hammolecheth ei chwaer ef oedd mam Isod, Abieser a Mahala.
19 Meibion Semida: Ahïan, Sechem, Lichi ac Aniham.
20 Meibion Effraim: Suthela, Bered ei fab, Tahath ei fab yntau, Elada ei fab yntau, Tahath ei fab yntau,
21 Sabad ei fab yntau, Suthela ei fab yntau, Eser, ac Elead; fe'u lladdwyd hwy gan ddynion Gath, a anwyd yn y wlad, am iddynt ddod i lawr i ddwyn eu gwartheg.