1 Benjamin oedd tad Bela ei gyntafanedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,
2 Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.
3 Meibion Bela: Adar, Gera, Abihud,
4 Abisua, Naaman, Ahoa,
5 Gera, Seffuffan a Huram.
6 Dyma feibion Ehud, a oedd yn bennau-teuluoedd preswylwyr Geba, ac a gaethgludwyd i Manahath: