34 Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.
35 Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,
36 a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab,
37 Gedor, Ahïo, Sechareia a Micloth;
38 Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr.
39 Ner oedd tad Cis, a Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.
40 Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha.