41 Yna rhoddodd y brenin orchymyn i'w holl deyrnas fod pawb ohonynt i ddod yn un bobl, a phob un i ymwrthod â'i arferion crefyddol ei hun.
42 Cydymffurfiodd y Cenhedloedd i gyd â gorchymyn y brenin,
43 ac yr oedd llawer hyd yn oed yn Israel yn cytuno â'i grefydd ef, gan aberthu i eilunod a halogi'r Saboth.
44 Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.
45 Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,
46 a digysegru'r deml a'r offeiriaid.
47 Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;