1 Yn y flwyddyn 172 casglodd y Brenin Demetrius ei luoedd ynghyd a theithiodd i Media i geisio cymorth iddo'i hun, fel y gallai ryfela yn erbyn Tryffo.
2 Pan glywodd Arsaces, brenin Persia a Media, fod Demetrius wedi dod i'w gyffiniau, anfonodd un o'i gapteiniaid i'w ddal yn fyw.
3 Aeth hwnnw a tharo gwersyll Demetrius, a'i ddal a'i ddwyn at Arsaces; rhoddodd yntau ef yng ngharchar.
4 Cafodd gwlad Jwda heddwch holl ddyddiau Simon. Ceisiodd ef ddaioni i'w genedl, a bodlonwyd hwythau gan ei awdurdod a'i fri dros ei holl ddyddiau.
5 At yr holl fri oedd ganddo, cipiodd Jopa i fod yn borthladd, a'i wneud yn fynedfa i ynysoedd y môr.
6 Helaethodd derfynau ei genedl, a daeth y wlad dan ei awdurdod.
7 Casglodd ynghyd lawer o garcharorion rhyfel, a gwnaeth ei hun yn arglwydd dros Gasara a Bethswra, a'r gaer, a charthu allan ohoni ei holl aflendid. Nid oedd neb a'i gwrthwynebai.
8 Yr oedd y bobl yn trin eu tir mewn heddwch, a'r ddaear yn dwyn ei chnydau a choed y gwastadeddau eu ffrwyth.
9 Byddai'r hynafgwyr yn eistedd yn yr heolydd, yn ymgomio â'i gilydd am eu bendithion, a'r gwŷr ifainc yn ymwisgo'n ysblennydd yn eu lifrai milwrol.
10 Darparodd Simon gyflenwad bwyd i'r trefi, a gosod ynddynt arfau amddiffyn; ac ymledodd y sôn am ei enw anrhydeddus hyd eithaf y ddaear.
11 Sefydlodd heddwch yn y tir, a bu llawenydd Israel yn fawr dros ben.
12 Eisteddodd pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, heb neb i'w ddychrynu.
13 Yn y dyddiau hynny nid oedd neb ar ôl yn y wlad i ryfela yn erbyn yr Iddewon, gan fod y brenhinoedd wedi cael eu dinistrio.
14 Rhoddodd Simon nawdd i'r holl rai iselradd ymhlith ei bobl; rhoes sylw manwl i'r gyfraith, a bwriodd ymaith bob un digyfraith a drygionus.
15 Rhoes fri mawr ar y cysegr, ac amlhau ei lestri cysegredig.
16 Daeth y newydd am farw Jonathan i Rufain, ac i Sparta hefyd, a buont yn galaru'n fawr.
17 Pan glywsant am benodi ei frawd Simon yn archoffeiriad yn ei le, a bod y wlad a'i threfi dan ei awdurdod ef,
18 ysgrifenasant ato ar lechau pres i adnewyddu ag ef y cyfeillgarwch a'r cynghrair a wnaethant â'i frodyr Jwdas a Jonathan.
19 Darllenwyd hwn gerbron y gynulleidfa yn Jerwsalem.
20 Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd y Spartiaid:“Llywodraethwyr a dinas y Spartiaid at yr archoffeiriad Simon, ac at yr henuriaid a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, ein brodyr, cyfarchion.
21 Mynegwyd wrthym am eich bri a'ch anrhydedd gan y cenhadau a anfonwyd at ein pobl, a pharodd eu hymweliad lawenydd mawr inni.
22 Ysgrifenasom eu hadroddiad yn y cofnodion cyhoeddus fel a ganlyn: ‘Daeth Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, cenhadau yr Iddewon, atom i adnewyddu cytundeb eu cyfeillgarwch â ni.
23 Bu'n dda gan y bobl groesawu'r gwŷr yn anrhydeddus, a gosod copi o'u hymadroddion yn yr archifau cyhoeddus, iddynt fod ar gof a chadw gan y Spartiaid. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.’ ”
24 Wedi hyn anfonodd Simon Nwmenius i Rufain gyda tharian fawr o aur, gwerth mil o ddarnau arian, er mwyn cadarnhau'r cynghrair â hwy.
25 Pan glywodd y bobl y geiriau hyn dywedasant, “Pa ddiolch a rown i Simon ac i'w feibion?
26 Oherwydd safodd yn gadarn, ef a'i frodyr a thŷ ei dad, a gyrru ymaith elynion Israel oddi wrthynt, ac ennill ei rhyddid i'r genedl.” Felly gwnaethant arysgrif ar lechau pres, a gosod y rheini ar golofnau ar Fynydd Seion.
27 Dyma gopi o'r arysgrif: “Ar y deunawfed dydd o fis Elwl yn y flwyddyn 172, sef y drydedd flwyddyn i Simon fel archoffeiriad, yn Asaramel,
28 mewn cynulliad mawr o offeiriaid a phobl, o lywodraethwyr y genedl a henuriaid y wlad, gwnaethpwyd yn hysbys i ni yr hyn a ganlyn.
29 Yn gymaint â bod rhyfeloedd wedi eu hymladd yn aml yn y wlad, fe'u gosododd Simon fab Matathias, offeiriad o feibion Joarib, a'i frodyr, eu hunain mewn perygl, a sefyll yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn diogelu eu cysegr a'r gyfraith, gan ddwyn bri mawr i'w cenedl.
30 Cynullodd Jonathan eu cenedl at ei gilydd, a bu'n archoffeiriad iddynt nes ei gasglu at ei bobl.
31 Cynllwyniodd eu gelynion i oresgyn eu gwlad ac i ymosod ar eu cysegr.
32 Yna cododd Simon ac ymladd dros ei genedl. Gwariodd lawer o'i arian ei hun ar arfogi rhyfelwyr ei genedl a rhoi cyflog iddynt.
33 Cadarnhaodd drefi Jwdea, a Bethswra yng nghyffiniau Jwdea, lle gynt yr oedd arfau'r gelynion, a gosododd warchodlu o Iddewon yno.
34 Cadarnhaodd hefyd Jopa ar lan y môr, a Gasara yng nghyffiniau Asotus, lle gynt y trigai'r gelynion. Rhoes Iddewon i drigo yno, a gosod yn y trefi bopeth angenrheidiol er eu hadfer.
35 Pan welodd y bobl deyrngarwch Simon, a'i fwriad i ennill bri i'w genedl, penodasant ef yn arweinydd ac yn archoffeiriad iddynt, i'w gydnabod am iddo wneud yr holl bethau hyn, am iddo ymddwyn yn gyfiawn, a pharhau'n deyrngar i'w genedl, ac am iddo ym mhob modd geisio dyrchafu ei bobl.
36 Yn ei ddyddiau ef bu cymaint o lwyddiant dan ei law fel y gyrrwyd y Cenhedloedd allan o'u gwlad, ynghyd â'r rhai yn ninas Dafydd yn Jerwsalem a oedd wedi codi caer iddynt eu hunain. Oddi yno byddent yn mynd allan ac yn halogi popeth o amgylch y cysegr, a gwneud niwed mawr i'w burdeb.
37 Rhoes Simon Iddewon i drigo yn y gaer, a'i chadarnhau er diogelwch y wlad a'r ddinas, a chodi muriau Jerwsalem yn uwch.
38 O ganlyniad cadarnhaodd y Brenin Demetrius ef yn swydd yr archoffeiriad,
39 a'i wneud yn un o'i Gyfeillion, gan roi anrhydedd mawr iddo.
40 Oherwydd yr oedd wedi clywed bod y Rhufeiniaid yn cydnabod yr Iddewon fel cyfeillion a chynghreiriaid a brodyr, a'u bod wedi mynd allan i dderbyn mewn rhwysg genhadau Simon.
41 “Gwelodd yr Iddewon a'r offeiriaid yn dda benodi Simon yn arweinydd ac archoffeiriad iddynt am byth, nes y byddai proffwyd ffyddlon yn codi.
42 Ef oedd i fod yn gadlywydd arnynt, ac yn gyfrifol am y cysegr, yn oruchwyliwr ar eu llafur, ar y wlad, ar yr arfau ac ar yr amddiffynfeydd.
43 Yr oedd i fod yn gyfrifol am y cysegr, ac yr oedd pawb i ufuddhau iddo, a phob cytundeb yn y wlad i gael ei ysgrifennu yn ei enw ef. Yr oedd i ymddilladu mewn porffor ac i wisgo aur.
44 “Ni fydd gan neb o'r bobl nac o'r offeiriaid hawl i ddiddymu un o'r gorchmynion hyn, na gwrthddweud ordeiniadau Simon, na chynnull cynulliad yn y wlad heb ei gydsyniad, nac ymddilladu mewn porffor na gwisgo clespyn aur.
45 Bydd pwy bynnag a wna'n groes i hyn, neu a ddiddyma un o'r gorchmynion hyn, yn agored i gosb.
46 Gwelodd yr holl bobl yn dda benodi Simon i weithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn.
47 Derbyniodd yntau, a gweld yn dda bod yn archoffeiriad, yn gadlywydd ac yn llywodraethwr ar yr Iddewon a'r offeiriaid, a bod yn amddiffynnwr pawb.”
48 Gorchmynnwyd cerfio'r arysgrif hon ar lechau pres, a gosod y rheini o fewn cylch y cysegr mewn lle amlwg,
49 a rhoi copi ohonynt yn y trysordy, at wasanaeth Simon a'i feibion.