1 Macabeaid 7 BCND

Yr Archoffeiriad Alcimus ac Ymgyrch Nicanor

1 Yn y flwyddyn 151 ymadawodd Demetrius fab Selewcus â Rhufain a dod, ynghyd ag ychydig wŷr, i dref ar lan y môr, a theyrnasu yno.

2 Fel yr oedd ar ei ffordd i lys brenhinol ei hynafiaid daliodd ei fyddin Antiochus a Lysias, gyda'r bwriad o'u dwyn ger ei fron.

3 Ond pan glywodd am hyn dywedodd, “Peidiwch â dangos eu hwynebau i mi.”

4 Felly lladdodd ei fyddin hwy, ac eisteddodd Demetrius ar orsedd ei deyrnas.

5 Daeth ato holl wŷr digyfraith ac annuwiol Israel, ac Alcimus, gŵr oedd â'i fryd ar fod yn archoffeiriad, yn eu harwain.

6 Cyhuddasant y bobl gerbron y brenin fel hyn: “Y mae Jwdas a'i frodyr wedi lladd dy holl gyfeillion, ac wedi ein gyrru ninnau allan o'n gwlad.

7 Gan hynny anfon yn awr ŵr yr wyt yn ymddiried ynddo, i fynd a gweld yr holl ddifrod a wnaeth Jwdas i ni ac i diriogaeth y brenin, a boed iddo'u cosbi hwy a phawb sydd yn eu helpu.”

8 Dewisodd y brenin Bacchides, un o'i Gyfeillion, a oedd yn llywodraethu talaith Tu-hwnt-i'r-afon, gŵr mawr yn y deyrnas a theyrngar i'r brenin.

9 Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.

10 Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.

11 Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.

12 Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.

13 Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;

14 oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”

15 A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”

16 Wedi ennill eu hymddiriedaeth, cymerodd ef drigain gŵr ohonynt a'u lladd mewn un diwrnod, yn unol â gair yr Ysgrythur:

17 “Cnawd dy saint a'u gwaed,fe'u taenaist o amgylch Jerwsalem,ac nid oedd neb i'w claddu.”

18 Dechreuodd yr holl bobl eu hofni ac arswydo rhagddynt, gan ddweud, “Nid oes na gwirionedd na barn ganddynt, oherwydd y maent wedi torri'r cytundeb a'r llw a dyngasant.”

19 Ymadawodd Bacchides â Jerwsalem a gwersyllu yn Bethsaith. Rhoes orchymyn i ddal llawer o'r gwŷr oedd wedi gwrthgilio ato, ynghyd â rhai o'r bobl, a'u lladd a'u taflu i'r bydew mawr.

20 Gosododd y diriogaeth yng ngofal Alcimus, a gadael byddin gydag ef i'w gynorthwyo. Yna dychwelodd Bacchides at y brenin.

21 Ymdrechodd Alcimus yn galed i sicrhau'r archoffeiriadaeth iddo'i hun,

22 a heidiodd holl aflonyddwyr y bobl ato. Darostyngasant wlad Jwda, a gwneud difrod mawr yn Israel.

23 Pan welodd Jwdas yr holl ddrygioni yr oedd Alcimus a'i ganlynwyr wedi ei ddwyn ar blant Israel—yr oedd yn waeth na dim oddi ar law'r Cenhedloedd—

24 aeth ar gyrch o amgylch holl derfynau Jwdea, gan ddial ar y rhai oedd wedi gwrthgilio, a'u rhwystro rhag dianc i ardal wledig.

25 Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'i ganlynwyr wedi magu cryfder, a sylweddoli na fedrai eu gwrthsefyll, dychwelodd at y brenin a'u cyhuddo o weithredoedd anfad.

26 Anfonodd y brenin un o'i gadfridogion enwocaf, Nicanor, gelyn cas i Israel, a gorchymyn iddo ddinistrio'r bobl.

27 Felly daeth Nicanor i Jerwsalem gyda byddin fawr, ac anfon yn ddichellgar at Jwdas a'i frodyr y neges heddychlon hon:

28 “Na fydded ymladd rhyngof fi a chwi; rwyf am ddod gydag ychydig wŷr i'ch gweld wyneb yn wyneb mewn heddwch.”

29 Daeth at Jwdas, a chyfarchodd y ddau ei gilydd yn heddychlon; yr oedd y gelynion, er hynny, yn barod i gipio Jwdas.

30 Pan fynegwyd i Jwdas mai dichell oedd bwriad Nicanor wrth ddod ato, dychrynodd rhagddo a gwrthod ei gyfarfod eto.

31 Pan ddeallodd Nicanor fod ei gynllwyn wedi ei ddinoethi, aeth ar gyrch i wynebu Jwdas gerllaw Caffarsalama.

32 Syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Nicanor, a ffoes y gweddill i Ddinas Dafydd.

33 Wedi'r pethau hyn aeth Nicanor i fyny i Fynydd Seion. Daeth rhai o'r offeiriaid allan o'r cysegr, a rhai o henuriaid y bobl, i'w gyfarch yn heddychlon ac i ddangos iddo y poethoffrwm oedd yn cael ei offrymu dros y brenin.

34 Ond gwawdiodd hwy a'u gwatwar a'u halogi, gan frolio

35 a thyngu llw yn ei ddicter: “Os na thraddodir Jwdas a'i fyddin i'm dwylo ar unwaith, yna pan ddychwelaf yn fuddugoliaethus, fe losgaf y tŷ yma.”

36 Ac ymaith ag ef mewn dicter mawr. Yna aeth yr offeiriaid i mewn a sefyll gerbron yr allor a'r cysegr, gan wylo a dweud:

37 “Dewisaist ti y tŷ hwn i ddwyn dy enw,i fod yn dŷ gweddi a deisyfiad i'th bobl.

38 Tâl ddialedd i'r dyn hwn a'i fyddin,a phâr iddynt syrthio gan gleddyf;cofia'u cableddau,a phaid â gadael iddynt fyw.”

39 Aeth Nicanor allan o Jerwsalem a gwersyllu yn Beth-horon, ac ymgynullodd byddin Syria ato.

40 Gwersyllodd Jwdas yn Adasa gyda thair mil o wŷr.

41 Yna gweddïodd Jwdas fel hyn: “Pan gablodd y negeswyr a anfonodd y brenin, aeth dy angel i'r frwydr a tharo cant wyth deg a phump o filoedd o'r Asyriaid.

42 Maluria yn yr un modd y fyddin hon o'n blaen heddiw, a gwybydded pawb i Nicanor lefaru'n enllibus am dy gysegr, a barna ef yn ôl ei ddrygioni.”

43 Daeth y byddinoedd ynghyd i frwydr ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar. Maluriwyd byddin Nicanor, ac ef ei hun oedd y cyntaf i syrthio yn y frwydr.

44 Pan welodd ei fyddin fod Nicanor wedi syrthio, taflasant eu harfau i ffwrdd a ffoi.

45 Ond erlidiodd yr Iddewon hwy daith diwrnod o Adasa hyd at Gasara, gan seinio'r alwad i'r gad ar eu hutgyrn o'r tu ôl iddynt.

46 Daeth gwŷr allan o holl bentrefi Jwdea yn y cylch, ac amgylchynu'r gelyn, a'u troi'n ôl at eu hymlidwyr. Syrthiodd pawb gan gleddyf, ac ni adawyd cymaint ag un ohonynt.

47 Cymerodd yr Iddewon yr ysbail a'r anrhaith, a thorasant i ffwrdd ben Nicanor a'i law dde, honno yr oedd wedi ei hestyn allan mor falch, a'u dwyn a'u harddangos ar gyrion Jerwsalem.

48 Gorfoleddodd y bobl yn fawr, a dathlu'r dydd hwnnw yn ddydd o orfoledd mawr.

49 Ordeiniasant gadw'r dydd hwnnw yn ŵyl flynyddol ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar.

50 Felly cafodd gwlad Jwda heddwch dros ychydig ddyddiau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16