1 Pan glywodd y Cenhedloedd oddi amgylch fod yr allor wedi ei hailgodi a'r deml wedi ei hailgysegru i fod fel yr oeddent o'r blaen, aethant yn gynddeiriog
2 a phenderfynu difodi pawb o hil Jacob a oedd yn eu plith. A dyna ddechrau lladd a dinistrio ymhlith y bobl.
3 Ar hyn aeth Jwdas i ryfel yn erbyn meibion Esau yn Idwmea, gan ymosod ar Acrabattene, oherwydd yr oeddent yn dal i warchae ar Israel. Trawodd hwy ag ergyd drom a'u darostwng a'u hysbeilio.
4 Cofiodd hefyd ddrygioni meibion Baian, iddynt fod yn rhwyd ac yn fagl i'r bobl wrth ymosod o'u cuddfannau arnynt ar y priffyrdd.
5 Wedi eu cau i mewn yn eu tyrau, gwersyllodd yn eu herbyn, a chan ymdynghedu i'w llwyr ddifetha llosgodd eu tyrau â thân ynghyd â phawb oedd o'u mewn.
6 Aeth drosodd hefyd at feibion Ammon a'u cael yn fintai gref ac yn bobl niferus, a Timotheus yn ben arnynt.
7 Ymladdodd yn eu herbyn frwydrau lawer; drylliodd hwy o'i flaen a'u difrodi.
8 Meddiannodd Jaser hefyd a'i phentrefi; yna dychwelodd i Jwdea.
9 A dyma'r Cenhedloedd a oedd yn Gilead yn ymgasglu yn erbyn yr Israeliaid a drigai yn eu tiroedd gyda'r bwriad o'u dinistrio. Ffoesant hwythau i gaer Dathema,
10 ac anfon y llythyr hwn at Jwdas a'i frodyr: “Y mae'r Cenhedloedd sydd o'n cwmpas wedi ymgasglu i'n dinistrio ni.
11 Y maent yn paratoi i ddod a meddiannu'r gaer y ffoesom iddi, a Timotheus sy'n arwain eu llu.
12 Tyrd gan hynny yn awr i'n gwaredu ni o'u dwylo, oherwydd y mae llawer ohonom wedi syrthio,
13 a'n holl gyd-Iddewon yn nhiroedd Twbias wedi eu lladd, eu gwragedd a'u plant a'u heiddo wedi eu cymryd yn ysbail ganddynt, a thua mil o wŷr wedi eu lladd yno.”
14 Yr oeddent wrthi'n darllen y llythyr hwn pan ddaeth negeswyr eraill o Galilea, a'u dillad wedi eu rhwygo, gan ddwyn y neges hon:
15 “Y mae gwŷr o Ptolemais a Tyrus a Sidon,” meddent, “a holl Galilea'r Cenhedloedd, wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n difa ni'n llwyr.”
16 Pan glywodd Jwdas a'r bobl y geiriau hyn, galwyd cynulliad llawn i ystyried beth a allent ei wneud dros eu cydwladwyr a oedd mewn gorthrymder, dan bwys ymosodiad eu gelynion.
17 Yna dywedodd Jwdas wrth Simon ei frawd, “Dewis dy wŷr a dos, achub dy frodyr sydd yn Galilea; mi af fi a Jonathan fy mrawd i Gilead.”
18 Ond gadawodd ef Joseff fab Sacharias ac Asarias, llywodraethwr y bobl, ynghyd â gweddill y fyddin yn Jwdea i'w gwarchod hi;
19 a gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Gwyliwch dros y bobl hyn, ond peidiwch â mynd i ryfel yn erbyn y Cenhedloedd hyd nes i ni ddychwelyd.”
20 Yna dosbarthwyd tair mil o wŷr i Simon i fynd i Galilea, ac wyth mil i Jwdas i fynd i Gilead.
21 Aeth Simon i Galilea ac ymladd brwydrau lawer yn erbyn y Cenhedloedd, a drylliwyd y Cenhedloedd o'i flaen.
22 Erlidiodd hwy hyd at borth Ptolemais, a syrthiodd ynghylch tair mil o wŷr y Cenhedloedd, ac fe'u hysbeiliwyd.
23 Yna cymerodd Iddewon Galilea ac Arbatta, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u holl eiddo, a'u dwyn yn ôl i Jwdea â llawenydd mawr.
24 Croesodd Jwdas Macabeus a Jonathan ei frawd yr Iorddonen a mynd ar daith dridiau i'r anialwch.
25 Cyfarfuasant â'r Nabateaid, a ddaeth atynt yn heddychlon gan fynegi iddynt y cyfan a oedd wedi digwydd i'w cyd-genedl yn Gilead:
26 bod llawer ohonynt yn garcharorion yn Bosra a Bosor, yn Alema a Chasffo, Maced a Carnaim—trefi mawr caerog yw'r rhain i gyd—
27 a bod rhai'n garcharorion yn y gweddill o drefi Gilead; a bod y gelyn yn ymbaratoi i ymosod ar y ceyrydd drannoeth a'u meddiannu, a dinistrio mewn un diwrnod yr holl Iddewon oedd ynddynt.
28 Ar hyn troes Jwdas a'i fyddin yn ôl ar frys ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosra; meddiannodd y dref, ac wedi lladd pob gwryw â min y cledd ysbeiliodd eu holl eiddo, a'i llosgi hi â thân.
29 Ciliodd oddi yno liw nos a dod hyd at gaer Dathema
30 Ar doriad gwawr edrychasant a gweld llu mawr na ellid ei rifo yn dwyn ysgolion a pheiriannau rhyfel i feddiannu'r gaer; ac yr oeddent ar ymosod ar y rhai o'i mewn.
31 Gwelodd Jwdas fod y frwydr wedi dechrau, a bod cri'r dref yn esgyn i'r nef â sain utgyrn a bloedd uchel.
32 Dywedodd wrth wŷr ei fyddin, “Ymladdwch heddiw dros ein brodyr.”
33 Yna cychwynasant yn dair mintai i ymosod arnynt o'r tu ôl. Seiniasant yr utgyrn a chodi llef mewn gweddi.
34 Pan wybu byddin Timotheus mai Macabeus ydoedd, ffoesant rhagddo; trawodd hwy ag ergyd drom, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch wyth mil o'u gwŷr.
35 Troes wedyn o'r neilltu tuag Alema. Ymladdodd yn ei herbyn a'i meddiannu, a lladd pob gwryw ynddi. Ysbeiliodd hi a'i llosgi â thân.
36 Teithiodd oddi yno a meddiannu Chasffo, Maced, Bosor, a gweddill trefi Gilead.
37 Wedi'r digwyddiadau hyn casglodd Timotheus fyddin arall a gwersyllu gyferbyn â Raffon, yr ochr draw i'r nant.
38 Anfonodd Jwdas rai i ysbïo'r gwersyll, a daethant â'r adroddiad hwn iddo: “Y mae'r holl Genhedloedd o'n cwmpas wedi ymgynnull ato, yn llu mawr iawn.
39 Y maent hefyd wedi cyflogi Arabiaid i'w cynorthwyo, ac y maent yn gwersyllu yr ochr draw i'r nant, yn barod i ddod i'th erbyn i ryfel.” Yna aeth Jwdas allan i'w cyfarfod.
40 Wrth i Jwdas a'i fyddin nesáu at ddyfroedd y nant, meddai Timotheus wrth gapteiniaid ei lu, “Os daw ef drosodd yn gyntaf atom ni, ni fyddwn yn gallu ei wrthsefyll, oherwydd bydd ef yn drech o lawer na ni.
41 Ond os bydd yn ofnus a gwersyllu yr ochr draw i'r afon, fe awn ni drosodd ato ef a'i drechu.”
42 Pan nesaodd Jwdas at ddyfroedd y nant, gosododd swyddogion y fyddin ar lan y nant a gorchymyn iddynt fel hyn: “Peidiwch â chaniatáu i neb wersyllu, ond eled pawb yn ei flaen i'r gad.”
43 Yna achubodd y blaen i groesi atynt hwy, a'r holl fyddin ar ei ôl. Drylliwyd yr holl Genhedloedd o'i flaen; taflasant ymaith eu harfau a ffoi i gysegrle Carnaim.
44 Yna meddiannodd y dref a llosgi'r cysegrle â thân, ynghyd â phawb a oedd ynddo. Felly dymchwelwyd Carnaim; ni allai mwyach wrthsefyll Jwdas.
45 Casglodd Jwdas ynghyd bawb o wŷr Israel a oedd yn Gilead, o'r lleiaf i'r mwyaf, gyda'u gwragedd a'u plant a'u heiddo, tyrfa luosog iawn, i ddod â hwy i wlad Jwda.
46 Daethant hyd at Effron, tref gaerog fawr iawn ar y briffordd. Nid oedd modd mynd heibio iddi i'r dde nac i'r chwith; rhaid oedd teithio drwy ei chanol.
47 Ond caeodd gwŷr y dref hwy allan a llenwi'r pyrth â cherrig.
48 Anfonodd Jwdas atynt neges heddychlon: “Yr ydym ar fynd drwy eich gwlad er mwyn cyrraedd ein gwlad ein hunain, ac ni wna neb ddrwg i chwi. Cerdded trwodd yn unig y byddwn.” Ond ni fynnent agor iddo.
49 Yna gorchmynnodd Jwdas gyhoeddi yn y fyddin fod pob un i wersyllu yn y man lle'r oedd.
50 Gwersyllodd gwŷr y llu, ac ymladdodd ef yn erbyn y dref y diwrnod hwnnw ar ei hyd, a'r nos hefyd, nes i'r dref ildio i'w ddwylo.
51 Lladdodd bob gwryw â min y cledd, a dymchwelyd y dref hyd at ei sylfeini, a'i hysbeilio. Yna tramwyodd drwyddi ar draws cyrff rhai a laddwyd.
52 Croesasant yr Iorddonen i mewn i'r gwastadedd eang gyferbyn â Bethsan,
53 a Jwdas yn cyrchu'r rhai oedd yn dilyn o hirbell ac yn calonogi'r bobl yr holl ffordd nes iddo ddod i wlad Jwda.
54 Aethant i fyny i Fynydd Seion â llawenydd a gorfoledd, ac offrymu poethoffrymau, am iddynt ddychwelyd mewn heddwch heb golli'r un o'u plith.
55 Yn ystod y dyddiau pan oedd Jwdas, ynghyd â Jonathan yng ngwlad Gilead, a Simon ei frawd yng Ngalilea gyferbyn â Ptolemais,
56 clywodd Joseff fab Sacharias ac Asarias, capteiniaid y llu arfog, am eu gorchestion arwrol mewn rhyfel.
57 Yna dywedasant, “Gadewch i ninnau hefyd wneud enw i ni'n hunain, a mynd i ryfela yn erbyn y Cenhedloedd o'n cwmpas.”
58 Rhoesant orchymyn i aelodau'r llu arfog a oedd gyda hwy, ac aethant i ymosod ar Jamnia.
59 Daeth Gorgias a'i wŷr allan o'r dref i'w hwynebu mewn brwydr.
60 Gyrrwyd Joseff ac Asarias ar ffo a'u hymlid hyd at gyrion Jwdea, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch dwy fil o bobl Israel.
61 Daeth trychineb mawr i ran y bobl, am iddynt, yn eu bwriad i wneud gwrhydri, beidio â gwrando ar Jwdas a'i frodyr.
62 Nid oeddent hwy o linach y gwŷr hynny yr oedd gwaredu Israel wedi ei ymddiried i'w dwylo.
63 Mawr oedd clod y gŵr Jwdas a'i frodyr drwy holl Israel a thrwy'r holl Genhedloedd, ple bynnag y clywid eu henw.
64 Byddai pobl yn tyrru atynt a'u hanrhydeddu.
65 Yna aeth Jwdas a'i frodyr allan a dechrau rhyfela yn erbyn meibion Esau yn y diriogaeth tua'r de. Trawodd Hebron a'i phentrefi, a difrodi ei cheyrydd a llosgi y tyrau o'i hamgylch.
66 Ymadawodd wedyn i fynd i wlad y Philistiaid, a thramwyodd drwy Marisa.
67 Y dydd hwnnw syrthiodd nifer o offeiriaid mewn brwydr wrth iddynt yn eu byrbwylltra fentro i'r gad gan fwriadu gwneud gwrhydri.
68 Ond troes Jwdas o'r neilltu i Asotus yng ngwlad y Philistiaid; difrododd eu hallorau, a llosgi delwau cerfiedig eu duwiau â thân, ac ysbeilio'r trefi; yna dychwelodd i wlad Jwda.