1 Macabeaid 10 BCND

1 Yn y flwyddyn 160 daeth Alexander Epiffanes, mab Antiochus, a meddiannu Ptolemais. Derbyniasant ef, ac fe'i gwnaeth ei hun yn frenin yno.

2 Pan glywodd y Brenin Demetrius am hyn casglodd ynghyd lu mawr iawn, ac aeth allan i'w gyfarfod ef mewn rhyfel.

3 Hefyd anfonodd Demetrius lythyrau at Jonathan yn ei gyfarch yn gymodlon a gwenieithus;

4 oherwydd dywedodd, “Gadewch inni achub y blaen i gymodi â hwy cyn i Jonathan gymodi ag Alexander yn ein herbyn ni.

5 Oherwydd bydd ef yn cofio'r holl ddrygau a wnaethom iddo, ac i'w frodyr, ac i'r genedl.”

6 Felly rhoes Demetrius awdurdod i Jonathan i gasglu byddin, i ddarparu arfau, ac i weithredu fel cynghreiriaid iddo. Gorchmynnodd hefyd drosglwyddo iddo y gwystlon oedd yn y gaer.

7 Daeth Jonathan i Jerwsalem a darllen y llythyrau yng nghlyw'r holl bobl a'r gwŷr o'r gaer.

8 Daeth ofn mawr arnynt pan glywsant fod y brenin wedi rhoi awdurdod iddo i gasglu llu.

9 Ond trosglwyddodd y gwŷr o'r gaer y gwystlon i Jonathan, a rhoes ef hwy i'w rhieni.

10 Gwnaeth Jonathan ei drigle yn Jerwsalem a dechrau adeiladu ac adnewyddu'r ddinas,

11 gan orchymyn i'r gweithwyr adeiladu muriau'r ddinas, ac amgylchu Mynydd Seion â cherrig sgwâr er mwyn ei gadarnhau; a gwnaethant felly.

12 Yna ffoes yr estroniaid a oedd yn y caerau yr oedd Bacchides wedi eu hadeiladu;

13 gadawodd pob un ei le a dychwelyd i'w wlad ei hun.

14 Eto gadawyd ar ôl yn Bethswra rai o'r sawl a oedd wedi ymwrthod â'r gyfraith ac â'r ordinhadau; oherwydd yr oedd yn ddinas noddfa iddynt.

15 Clywodd y Brenin Alexander am yr addewidion a anfonodd Demetrius at Jonathan, a mynegwyd iddo am y rhyfeloedd, a'r gwrhydri a wnaethai Jonathan a'i frodyr, ac am y caledi a ddioddefasant.

16 Dywedodd, “A gawn ni fyth un tebyg i hwn?

17 Gwnawn ef felly yn awr yn gyfaill a chynghreiriad inni.” Ysgrifennodd lythyrau a'u hanfon ato fel a ganlyn:

18 “Y Brenin Alexander at y brawd Jonathan, cyfarchion.

19 Clywsom amdanat, dy fod yn ŵr cadarn, nerthol; a theilwng wyt i fod yn gyfaill inni.

20 Yn awr, felly, yr ydym wedi dy benodi heddiw yn archoffeiriad dy genedl, ac yn un i gael dy alw yn Gyfaill y Brenin” (ac anfonodd iddo wisg borffor a choron aur) “ac yr wyt i gymryd ein plaid a meithrin cyfeillgarwch â ni.”

21 Gwisgodd Jonathan y wisg sanctaidd amdano yn y seithfed mis o'r flwyddyn 160, ar ŵyl y Pebyll; a chasglodd ynghyd luoedd a darparu arfau lawer.

22 Pan glywodd Demetrius am y pethau hyn bu'n ofid iddo,

23 a dywedodd, “Beth yw hyn a wnaethom, bod Alexander wedi achub y blaen arnom i ffurfio cyfeillgarwch â'r Iddewon, er mwyn ei gadarnhau ei hun?

24 Ysgrifennaf finnau hefyd atynt neges galonogol, ac addo iddynt anrhydeddau a rhoddion, er mwyn iddynt fod yn gymorth i mi.”

25 Anfonodd atynt y neges ganlynol:“Y Brenin Demetrius at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

26 Gan i chwi gadw eich cytundebau â ni, ac aros mewn cyfeillgarwch â ni, heb fynd drosodd at ein gelynion—clywsom am hyn, a llawenhau.

27 Bellach, arhoswch mwy mewn ffyddlondeb i ni, ac fe dalwn ni'n ôl i chwi ddaioni am yr hyn yr ydych yn ei wneud drosom.

28 Rhyddhawn chwi o lawer treth, a rhown anrhegion i chwi.

29 “Yn awr yr wyf yn eich gollwng yn rhydd, ac yn rhyddhau'r holl Iddewon o dollau, ac o dreth yr halen, ac o arian y goron;

30 ac yn lle casglu traean y grawn, a hanner ffrwyth y coed sydd yn ddyledus i mi, yr wyf yn eu rhyddhau o heddiw ymlaen. Ni chasglaf hwy o wlad Jwda nac o'r tair rhandir o Samaria a Galilea a ychwanegwyd ati, o heddiw ymlaen a hyd byth.

31 Bydded Jerwsalem a'i chyffiniau, ei degymau a'i thollau, yn sanctaidd a di-dreth.

32 Yr wyf yn gollwng fy ngafael a'm hawdurdod ar y gaer sydd yn Jerwsalem hefyd, ac yn ei rhoi i'r archoffeiriad, iddo ef osod ynddi wŷr o'i ddewis ei hun i'w gwarchod hi.

33 Yr holl Iddewon a gaethgludwyd o wlad Jwda i unrhyw ran o'm teyrnas, yr wyf yn eu rhyddhau am ddim; ac y mae fy holl swyddogion i ddiddymu'r tollau ar wartheg yr Iddewon.

34 Yr holl wyliau a'r Sabothau a'r newydd-loerau, a'r dyddiau penodedig eraill, a'r tridiau o flaen ac ar ôl gŵyl—bydded y cyfan yn ddyddiau rhyddhau a gollyngdod i'r holl Iddewon sydd yn fy nheyrnas.

35 Ni chaiff neb awdurdod i hawlio dim ganddynt nac i aflonyddu arnynt ar unrhyw fater.

36 “Bydded i tua deng mil ar hugain o Iddewon ymrestru yn lluoedd y brenin, a rhoddir iddynt y gynhaliaeth sy'n gweddu i holl luoedd y brenin.

37 Caiff rhai ohonynt eu gosod yng ngheyrydd cedyrn y brenin, ac eraill mewn swyddi o gyfrifoldeb yn y deyrnas. Bydd eu swyddogion a'u harweinwyr o'u plith hwy eu hunain, ac y maent i fyw yn ôl eu cyfreithiau eu hunain, fel y gorchmynnodd y brenin yng ngwlad Jwda.

38 “Am y tair rhandir a ychwanegwyd at Jwdea o wlad Samaria, boed iddynt gael eu hychwanegu at Jwdea mewn modd i'w hystyried o dan un llywodraethwr, heb orfod arnynt ufuddhau i unrhyw awdurdod ond yr archoffeiriad.

39 “Yr wyf yn rhoi Ptolemais a'r wlad o'i hamgylch yn rhodd i'r cysegr yn Jerwsalem, i gyfarfod â threuliau angenrheidiol y cysegr.

40 Yr wyf hefyd yn rhoi pymtheng mil o siclau arian yn flynyddol o gyllid y brenin allan o'r mannau priodol.

41 Am y gweddill, yr hyn na thalodd y swyddogion i mewn fel y gwnaethant yn y blynyddoedd cyntaf, o hyn ymlaen cânt ei roi at wasanaeth y deml.

42 Heblaw hyn y mae'r pum mil o siclau arian hynny a dderbynient yn flynyddol allan o gyfrifon angenrheidiau'r cysegr i'w maddau hefyd, oherwydd eiddo'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno ydynt.

43 A phawb fydd yn ffoi i'r deml yn Jerwsalem, neu i unrhyw ran o'i chyffiniau, am fod arnynt ddyled i'r brenin, neu unrhyw ddyled arall, y maent i'w gollwng yn rhydd ynghyd â phob eiddo sydd ganddynt yn fy nheyrnas.

44 Y mae treuliau codi ac adnewyddu adeiladau'r cysegr i'w talu o gyfrif y brenin;

45 ac o gyfrif y brenin hefyd y mae talu treuliau adeiladu muriau Jerwsalem, ei chadarnhau hi o amgylch, ac adeiladu'r muriau yn Jwdea.”

46 Pan glywodd Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni chredasant hwy na'u derbyn, oherwydd cofiasant y mawr ddrwg yr oedd Demetrius wedi ei gyflawni yn Israel, a'r modd yr oedd wedi eu gormesu'n ddirfawr.

47 Alexander a gafodd eu ffafr, oherwydd ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau heddychlon wrthynt, a buont yn gynghreiriaid iddo dros ei holl ddyddiau.

48 Casglodd y Brenin Alexander lu mawr a gwersyllu gyferbyn â Demetrius.

49 Daeth y ddau frenin ynghyd i ryfel; ffoes byddin Demetrius ac ymlidiodd Alexander ef, a'i drechu.

50 Ymladdodd yn galed hyd fachlud haul, a syrthiodd Demetrius y dydd hwnnw.

51 Yna anfonodd Alexander lysgenhadon at Ptolemeus brenin yr Aifft gyda'r neges ganlynol:

52 “Gan i mi ddychwelyd i'm teyrnas i eistedd ar orsedd fy hynafiaid a chipio'r llywodraeth trwy orchfygu Demetrius ac adfeddiannu ein gwlad—

53 euthum i ryfel yn ei erbyn, a gorchfygwyd ef a'i fyddin gennym, ac eisteddasom ar orsedd ei deyrnas—

54 gan hynny gadewch inni yn awr wneud cynghrair â'n gilydd; rho di dy ferch yn awr yn wraig i mi, a byddaf finnau'n fab-yng-nghyfraith i ti, a rhoddaf i ti ac iddi hithau anrhegion teilwng ohonot.”

55 Atebodd y Brenin Ptolemeus fel hyn: “O ddedwydd ddydd pan ddychwelaist i wlad dy hynafiaid ac eistedd ar orsedd eu teyrnas!

56 Fe wnaf i ti yn awr yn unol â'r hyn a ysgrifennaist, ond tyrd i'm cyfarfod yn Ptolemais, er mwyn inni weld ein gilydd, ac imi ddod yn dad-yng-nghyfraith i ti, fel yr wyt wedi dweud.”

57 Ymadawodd Ptolemeus â'r Aifft, ef a'i ferch Cleopatra, a dod i Ptolemais yn y flwyddyn 162.

58 Cyfarfu'r Brenin Alexander ag ef; rhoddodd yntau ei ferch Cleopatra yn briod iddo, a dathlodd ei phriodas mewn rhwysg mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.

59 Ysgrifennodd y Brenin Alexander at Jonathan iddo ddod i'w gyfarfod.

60 Aeth yntau mewn rhwysg i Ptolemais a chyfarfod y ddau frenin. Rhoes iddynt ac i'w Cyfeillion arian ac aur ac anrhegion lawer, a chafodd ffafr yn eu golwg.

61 Ond ymgasglodd gwŷr ysgeler o Israel yn ei erbyn, gwŷr digyfraith, i achwyn arno; ond ni chymerodd y brenin sylw ohonynt.

62 Gorchmynnodd y brenin ddiosg dillad Jonathan oddi amdano a'i wisgo â phorffor, a gwnaethant felly.

63 Gwnaeth y brenin iddo eistedd yn ei ymyl, a dweud wrth ei swyddogion: “Ewch gydag ef i ganol y ddinas, a chyhoeddwch nad oes neb i achwyn arno ynghylch unrhyw fater, nac i aflonyddu arno ynghylch unrhyw achos.”

64 Pan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei rwysg, ac yntau yn ei wisg borffor, yn unol â'r gorchymyn, ffoesant i gyd.

65 Felly yr anrhydeddodd y brenin ef: ei restru ymhlith ei Gyfeillion pennaf, a'i benodi'n gadlywydd ac yn llywodraethwr talaith.

66 A dychwelodd Jonathan i Jerwsalem mewn heddwch a gorfoledd.

67 Yn y flwyddyn 165 daeth Demetrius, mab Demetrius, o Creta i wlad ei hynafiaid.

68 Pan glywodd y Brenin Alexander am hyn, bu'n ofid mawr iddo, a dychwelodd i Antiochia.

69 Penododd Demetrius Apolonius, llywodraethwr Coele Syria, yn gadfridog, a chasglodd yntau lu mawr a gwersyllu ger Jamnia. Anfonodd y neges hon at Jonathan yr archoffeiriad:

70 “Ti yw'r unig un i godi yn ein herbyn; euthum innau yn gyff gwawd a gwatwar o'th achos di. Pam wyt ti yn honni awdurdod arnom yn y mynyddoedd?

71 Yn awr, gan hynny, os oes gennyt gymaint o hyder yn dy luoedd tyrd i lawr atom i'r gwastatir, a gadawer inni gystadlu â'n gilydd yno, oherwydd y mae llu'r dinasoedd o'm plaid i.

72 Hola, iti gael dysgu pwy wyf fi a phwy yw'r lleill sydd yn ein cynorthwyo; ac fe ddywedir wrthyt, ‘Nid oes i chwi led troed wyneb yn wyneb â ni’, oherwydd gyrrwyd dy hynafiaid ar ffo ddwywaith yn eu gwlad eu hunain.

73 Yn awr gan hynny ni fedri wrthsefyll y gwŷr meirch na'r fath lu yn y gwastatir, lle nid oes na chraig na charreg, nac unrhyw le i ffoi iddo.”

74 Pan glywodd Jonathan eiriau Apolonius cyffrowyd ei ysbryd. Dewisodd ddeng mil o wŷr, a chychwyn allan o Jerwsalem. Ymunodd ei frawd Simon ag ef i fod yn gymorth iddo.

75 Gwersyllodd ger Jopa, ond yr oedd y dinasyddion wedi cau'r pyrth yn ei erbyn, am fod gwarchodlu Apolonius yn Jopa.

76 Ymladdasant yn ei herbyn; ac yn eu dychryn agorodd y dinasyddion iddo, a daeth Jonathan yn arglwydd ar Jopa.

77 Pan glywodd Apolonius am hyn casglodd dair mil o wŷr meirch a llu mawr o wŷr traed, a theithio tuag Asotus, fel petai am fynd ymhellach. Yr un pryd, am fod ganddo liaws o wŷr meirch yr oedd yn ymddiried ynddynt, aeth rhagddo i'r gwastatir.

78 Ymlidiodd Jonathan ar ei ôl hyd Asotus, a daeth y byddinoedd ynghyd i ryfel.

79 Ond yr oedd Apolonius wedi gadael mil o wŷr meirch yn ddirgel y tu cefn iddynt,

80 a deallodd Jonathan fod cynllwyn y tu ôl iddo. Amgylchynasant ei fyddin a thaflu saethau at y bobl o fore bach hyd hwyr.

81 Ond daliodd y bobl eu tir, fel yr oedd Jonathan wedi gorchymyn, a diffygiodd gwŷr meirch y gelyn.

82 Yna arweiniodd Simon ei lu allan a dechrau ymladd â'r gatrawd o wŷr traed, gan fod y gwŷr meirch wedi llwyr flino. Drylliwyd hwy ganddo a ffoesant.

83 Gwasgarwyd y gwŷr meirch yn y gwastatir; ffoesant i Asotus a chyrraedd Beth-dagon, teml eu heilun, am noddfa.

84 Llosgodd Jonathan Asotus a'r trefi o'i hamgylch, a'u hysbeilio, gan losgi teml Dagon hefyd, a'r ffoaduriaid o'i mewn.

85 Yr oedd y rhai a syrthiodd trwy gleddyf, ynghyd â'r rhai a losgwyd, yn rhifo tua wyth mil o wŷr.

86 Teithiodd Jonathan oddi yno a gwersyllu ger Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w gyfarfod â rhwysg mawr.

87 Dychwelodd Jonathan a'i wŷr i Jerwsalem, a chanddynt lawer o ysbail.

88 Pan glywodd y Brenin Alexander am y pethau hyn aeth ati i anrhydeddu Jonathan fwyfwy eto.

89 Anfonodd iddo glespyn aur, fel y mae'n arfer ei roi i berthnasau brenhinoedd; rhoes yn feddiant iddo hefyd Accaron a'i holl gyffiniau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16