1 Macabeaid 15 BCND

Antiochus VII yn Ceisio Cefnogaeth Simon

1 Anfonodd Antiochus, mab y Brenin Demetrius, lythyr o ynysoedd y môr at Simon, offeiriad a llywodraethwr yr Iddewon, ac at yr holl genedl.

2 Yr oedd ei gynnwys fel a ganlyn:“Y Brenin Antiochus at Simon, archoffeiriad a llywodraethwr, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

3 Yn gymaint ag i ryw ddihirod drawsfeddiannu teyrnas ein hynafiaid, y mae yn fy mryd hawlio'r deyrnas yn ôl, er mwyn ei hadfer i'w chyflwr blaenorol. Cesglais fyddin luosog a darperais longau rhyfel.

4 Fy mwriad yw glanio yn y wlad, er mwyn ymosod ar y rheini a anrheithiodd ein gwlad a difrodi trefi lawer yn fy nheyrnas.

5 Gan hynny yr wyf yn awr yn cadarnhau i ti bob gollyngdod oddi wrth drethi a ganiatawyd iti gan y brehinoedd a fu o'm blaen i, ynghyd ag unrhyw daliadau eraill a ddilewyd ganddynt.

6 Yr wyf yn rhoi caniatâd i ti fathu dy arian priod dy hun, i fod yn arian cyfredol yn dy wlad.

7 Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.

8 Hefyd caiff pob dyled sydd, neu a fydd, yn ddyledus i'r drysorfa frenhinol ei dileu, yn awr a hyd byth.

9 Pan fyddwn wedi meddiannu ein teyrnas fe osodwn arnat ti a'th genedl a'r deml anrhydedd mawr iawn, fel yr amlygir eich bri dros yr holl ddaear.”

10 Yn y flwyddyn 174 aeth Antiochus i mewn i wlad ei hynafiaid, a daeth yr holl luoedd ynghyd ato ef, fel mai ychydig oedd gyda Tryffo.

11 Ymlidiodd Antiochus ef, a daeth yntau yn ffoadur i Dor, tref ar lan y môr.

12 Oherwydd gwyddai fod drygau wedi disgyn arno, a bod y lluoedd wedi cefnu arno.

13 Gwersyllodd Antiochus yn erbyn Dor, a chydag ef gant ac ugain o filoedd o ryfelwyr ac wyth mil o wŷr meirch.

14 Amgylchynodd y dref, ac ymunodd y llongau yn y gwarchae o'r môr. Felly gorthrymodd y dref o'r tir a'r môr, heb ganiatáu i neb fynd i mewn nac allan.

Rhufain yn Cefnogi'r Iddewon

15 Daeth Nwmenius a'r gwŷr oedd gydag ef o Rufain, gan ddwyn llythyr at y brenhinoedd a'r gwledydd; a'r neges ganlynol wedi ei hysgrifennu ynddo:

16 “Lwcius, Conswl y Rhufeiniaid, at y Brenin Ptolemeus, cyfarchion.

17 Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.

18 Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.

19 Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.

20 Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.

21 Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”

22 Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,

23 at Sampsames ac at y Spartiaid, yn ogystal ag i'r holl leoedd canlynol: Delos, Myndos, Sicyon, Caria, Samos, Pamffylia, Lycia, Halicarnassus, Rhodos, Phaselis, Cos, Side, Aradus, Gortuna, Cnidus, Cyprus a Cyrene.

24 Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.

Rhwyg rhwng Antiochus VII a Simon

25 Gwersyllodd y Brenin Antiochus yn erbyn Dor yr ail waith, a dwyn cyrchoedd arni yn barhaus. A chan godi peiriannau rhyfel gwarchaeodd ar Tryffo, fel na ellid mynd i mewn nac allan.

26 Anfonodd Simon ddwy fil o wŷr dethol ato i'w gynorthwyo, gydag arian ac aur ac arfau lawer.

27 Ond ni fynnai eu derbyn. Diddymodd yr holl gytundebau blaenorol a wnaethai â Simon, ac ymddieithriodd oddi wrtho.

28 Anfonodd ato Athenobius, un o'i Gyfeillion, i ddadlau ag ef a dweud, “Yr ydych chwi'n meddiannu Jopa a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, dinasoedd sy'n perthyn i'm teyrnas i.

29 Gwnaethoch eu cyffiniau yn ddiffaith; gwnaethoch ddifrod mawr yn y tir, ac aethoch yn arglwyddi ar lawer lle yn fy nheyrnas.

30 Yn awr, felly, rhowch yn ôl y dinasoedd a gymerasoch, ynghyd â'ch hawl ar drethi'r lleoedd hynny y tu allan i derfynau Jwdea yr aethoch yn arglwyddi arnynt.

31 Onid e, rhowch bum can talent o arian yn eu lle; a phum can talent arall am y dinistr a wnaethoch, ac am drethi'r dinasoedd. Neu fe awn i ryfel yn eich erbyn.”

32 Pan ddaeth Athenobius, Cyfaill y Brenin, i Jerwsalem, a gweld rhwysg Simon, a chwpwrdd yn llawn o lestri aur ac arian, ac arlwy luosog, rhyfeddodd. Cyflwynodd iddo neges y brenin,

33 ac atebodd Simon ef: “Nid tir pobl eraill yr ydym wedi ei gipio, ac nid eiddo pobl eraill yr ydym wedi ei feddiannu, ond treftadaeth ein hynafiaid, a drawsfeddiannwyd yn anghyfiawn dros dro gan ein gelynion.

34 Manteisio ar ein cyfle yr ydym ni i gael gafael eto ar dreftadaeth ein hynafiaid.

35 Ynglŷn â Jopa a Gasara, y lleoedd yr wyt ti yn eu hawlio, yr oedd y rhain yn peri difrod mawr ymhlith ein pobl ac yn ein gwlad; eto fe rown gan talent amdanynt.”

36 Nid atebodd Athenobius un gair iddo. Dychwelodd at y brenin mewn dicter, ac adrodd iddo eiriau Simon, a disgrifio'i rwysg a'r cwbl a welodd. Digiodd y brenin yn gynddeiriog.

Ioan yn Trechu Cendebeus

37 Ffoes Tryffo mewn llong i Orthosia.

38 Penododd y brenin Cendebeus yn gadlywydd yr arfordir, a rhoi iddo lu o wŷr traed ac o wŷr meirch.

39 Gorchmynnodd iddo wersyllu yn erbyn Jwdea, ac adeiladu Cedron a chadarnhau ei phyrth, er mwyn ymladd yn erbyn y bobl. Ond parhau i ymlid Tryffo a wnaeth y brenin.

40 Cyrhaeddodd Cendebeus Jamnia a dechrau cythruddo'r bobl; goresgynnodd Jwdea, caethiwo'r bobl, a'u lladd.

41 Adeiladodd Cedron a gosod gwŷr meirch a byddin yno, er mwyn iddynt fynd allan a gwarchod ffyrdd Jwdea, yn unol â gorchymyn y brenin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16