1 Gwelodd Jonathan fod yr amser yn ffafriol iddo, a dewisodd wŷr a'u hanfon i Rufain i gadarnhau ac adnewyddu ei gyfeillgarwch â phobl y ddinas honno.
2 Anfonodd lythyrau hefyd i'r un perwyl at y Spartiaid ac i leoedd eraill.
3 Daeth y cenhadau i Rufain a mynd i mewn i'r senedd-dy a dweud: “Anfonodd yr archoffeiriad Jonathan a chenedl yr Iddewon ni i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a fu gynt rhyngoch chwi a hwy.”
4 Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.
5 Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:
6 “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.
7 Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaeëdig yn tystio.
8 Croesawodd Onias y cennad yn anrhydeddus, a derbyn ganddo y llythyr, a oedd yn egluro telerau'r cynghrair cyfeillgar.
9 Gan hynny, er nad oes arnom ni angen cytundebau o'r fath, am fod gennym yn galondid y llyfrau sanctaidd sydd yn ein meddiant,
10 yr ydym wedi ymgymryd ag anfon i adnewyddu'r brawdgarwch a'r cyfeillgarwch rhyngom a chwi, rhag bod ymddieithrio rhyngom; oherwydd aeth cryn amser heibio er pan anfonasoch lythyr atom.
11 Yn wir, yr ydym ni bob amser, ar y gwyliau ac ar ddyddiau cyfaddas eraill, yn eich cofio yn ddi-baid yn yr aberthau a offrymwn ac mewn gweddïau, fel y mae'n iawn a phriodol cofio brodyr.
12 Yr ydym yn llawenhau yn y bri sydd i chwi.
13 Buom yng nghanol llawer o orthrymderau, a rhyfeloedd lawer; bu'r brenhinoedd o'n cwmpas yn rhyfela yn ein herbyn.
14 Er hynny, nid oeddem yn ewyllysio, yn y rhyfeloedd hyn, eich trafferthu chwi na'n cynghreiriaid a'n cyfeillion eraill,
15 oherwydd y mae gennym gymorth y nef i'n cynorthwyo; a chawsom ein gwaredu oddi wrth ein gelynion, a chawsant hwythau eu darostwng.
16 Dewisasom felly Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, ac yr ydym wedi eu hanfon at y Rhufeiniaid i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a oedd rhyngom a hwy gynt.
17 Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.
18 Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”
19 Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:
20 “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.
21 Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.
22 Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?
23 A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”
24 Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.
25 Ymadawodd â Jerwsalem a mynd i'w cyfarfod i wlad Hamath; felly ni roddodd iddynt gyfle i sengi o fewn ei wlad ei hun.
26 Anfonodd ysbïwyr i'w gwersyll, a adroddodd ar ôl dychwelyd fod y gelyn yn ymfyddino i ymosod arnynt liw nos.
27 Wedi machlud haul gorchmynnodd Jonathan i'w wŷr fod ar wyliadwriaeth a chadw eu harfau ar hyd y nos, yn barod i ryfel; yna gosododd ragwylwyr o gwmpas y gwersyll.
28 Pan ddeallodd yr ymosodwyr fod Jonathan a'i wŷr yn barod i ryfel, yn eu hofn a'u llwfrdra cyneuasant danau yn eu gwersyll.
29 Ond ni ddaeth Jonathan a'i wŷr i wybod am hyn tan y bore, er iddynt weld golau'r tanau.
30 Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.
31 Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.
32 Cododd ei wersyll a symud i Ddamascus, a thramwyo drwy'r holl wlad.
33 Cychwynnodd Simon allan a thramwyo hyd at Ascalon a'r ceyrydd cyfagos; yna troes o'r neilltu i Jopa a'i meddiannu hi,
34 oherwydd yr oedd wedi clywed bod ei thrigolion yn arfaethu trosglwyddo'r gaer i wŷr Demetrius. Felly gosododd warchodlu yno i'w chadw.
35 Dychwelodd Jonathan a chynnull henuriaid y bobl ynghyd, a dechrau ymgynghori â hwy ynghylch adeiladu ceyrydd yn Jwdea,
36 a chodi muriau Jerwsalem yn uwch, a chodi clawdd terfyn mawr rhwng y gaer a'r ddinas er mwyn ei gwahanu hi oddi wrth y ddinas, iddi fod ar ei phen ei hun, a'i gwneud yn amhosibl i'r gwarchodlu brynu a gwerthu.
37 Felly ymgasglasant ynghyd i adeiladu'r ddinas, oherwydd yr oedd rhan o'r mur ar hyd ochr y nant tua'r dwyrain wedi syrthio; ac atgyweiriwyd y rhan a elwir Chaffenatha.
38 Adeiladodd Simon hefyd Adida yn Seffela, a'i chadarnhau, a gosod pyrth a barrau.
39 Yr oedd Tryffo am ddod yn frenin dros Asia a gwisgo'r goron, a rhoes ei fryd ar wrthryfela yn erbyn y Brenin Antiochus.
40 Ond yn ei ofn na fyddai Jonathan yn cydsynio ag ef ac y byddai'n ymladd yn ei erbyn, ceisiodd fodd i ddal hwnnw a'i ladd. Cychwynnodd am Bethsan.
41 Aeth Jonathan allan i'w gyfarfod gyda deugain mil o filwyr dethol, a daeth ef hefyd i Bethsan.
42 Pan welodd Tryffo ei fod wedi dod gyda llu mawr ofnodd ymosod arno.
43 Yn hytrach croesawodd ef yn anrhydeddus, a'i ganmol wrth ei holl Gyfeillion, a rhoi iddo anrhegion, a gorchymyn i'w Gyfeillion ac i'w luoedd ufuddhau i Jonathan gymaint ag iddo ef ei hun.
44 Dywedodd wrth Jonathan: “I ba bwrpas y peraist flinder i'r holl bobl hyn, heb fod rhyfel rhyngom?
45 Yn awr, felly, anfon hwy adref, a dewis i ti dy hun ychydig wŷr i fod gyda thi, a thyrd gyda mi i Ptolemais, ac fe'i rhof hi iti, ynghyd â'r ceyrydd eraill, a gweddill y lluoedd, a'r holl swyddogion. Yna fe drof yn ôl a mynd oddi yma, oherwydd dyna pam y deuthum yma.”
46 Credodd Jonathan ef, a gwnaeth fel y dywedodd. Anfonodd ei luoedd i ffwrdd, a dychwelsant i wlad Jwda.
47 Cadwodd gydag ef dair mil o wŷr; gadawodd ddwy fil ohonynt yng Ngalilea, ac aeth mil i'w ganlyn ef.
48 Pan ddaeth Jonathan i mewn i Ptolemais, caeodd y Ptolemeaid y pyrth a'i ddal, a lladdasant â'r cleddyf bawb oedd wedi dod i mewn gydag ef.
49 Anfonodd Tryffo lu o wŷr traed a gwŷr meirch i Galilea, i'r gwastatir mawr, i ddileu holl wŷr Jonathan.
50 Ond pan ddeallodd y rheini fod Jonathan a'i wŷr wedi eu dal a'u lladd, dyma hwy'n calonogi ei gilydd, ac yn dechrau symud rhagddynt yn rhengoedd clòs a pharod i ryfel.
51 Pan welodd yr ymlidwyr y byddai'n frwydr hyd angau, troesant yn eu holau.
52 Felly daeth yr Iddewon i gyd yn ddihangol i wlad Jwda, mewn galar mawr am Jonathan a'i wŷr, a chan ofni'n ddirfawr.
53 Bwriwyd Israel gyfan i alar mawr. Aeth yr holl Genhedloedd o'u hamgylch ati yn awr i'w difrodi, oherwydd dywedasant: “Nid oes ganddynt lywodraethwr na chynorthwywr. Dyma ein cyfle, felly, i fynd i ryfel yn eu herbyn, a dileu'r coffa amdanynt o blith dynion.”