44 Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.
45 Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,
46 a digysegru'r deml a'r offeiriaid.
47 Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;
48 yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd,
49 ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.
50 Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.