59 Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd.
60 Yn unol â'r gorchymyn, lladdasant y gwragedd oedd wedi enwaedu ar eu plant,
61 gan grogi'r babanod wrth yddfau eu mamau; lladdasant hefyd eu teuluoedd, a'r sawl oedd yn enwaededig.
62 Er hynny, safodd llawer yn Israel yn gadarn, yn gwbl benderfynol na fynnent fwyta dim halogedig.
63 Yr oedd yn well ganddynt farw yn hytrach na chael eu llygru â bwydydd a halogi'r cyfamod sanctaidd; a marw a wnaethant.
64 A bu digofaint mawr iawn ar Israel.