35 Am y trethi eraill sy'n eiddo i ni, o'r degymau a'r tollau sy'n eiddo i ni, a'r pyllau halen ac arian y goron sy'n eiddo i ni, o hyn ymlaen byddwn yn eu rhyddhau o'r cwbl.
36 Nid yw'r un o'r trefniadau hyn i'w ddiddymu o hyn ymlaen hyd byth.
37 Yn awr, felly, gofalwch am wneud copi ohonynt i'w roi i Jonathan i'w osod mewn lle amlwg yn y mynydd sanctaidd.’ ”
38 Pan welodd y Brenin Demetrius fod y wlad wedi ymdawelu dano, ac nad oedd dim gwrthryfel yn ei erbyn, gollyngodd ymaith ei holl luoedd, pob un i'w le ei hun, ac eithrio lluoedd yr estroniaid hynny yr oedd wedi eu casglu'n filwyr cyflog o ynysoedd y Cenhedloedd. Am hynny cododd gelyniaeth tuag ato ymhlith yr holl luoedd a fu dan ei ragflaenwyr.
39 Pan welodd Tryffo, a oedd o'r blaen yn un o wŷr Alexander, fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, aeth at Imalcwe yr Arabiad, tad maeth Antiochus, mab bychan Alexander,
40 a phwyso arno drosglwyddo'r bachgen iddo ef, i'w wneud yn frenin yn lle ei dad. Mynegodd i Imalcwe hefyd yr holl bethau a gyflawnodd Demetrius, a'r elyniaeth a oedd gan ei luoedd tuag ato. Arhosodd yno am ddyddiau lawer.
41 Anfonodd Jonathan at y Brenin Demetrius i ofyn iddo dynnu allan y gwŷr o'r gaer yn Jerwsalem a'r gwŷr oedd yn yr amddiffynfeydd, oherwydd yr oeddent yn rhyfela yn erbyn Israel.