44 Yna anfonodd Jonathan ato i Antiochia dair mil o wŷr cyhyrog; daethant at y brenin, a pharodd eu dyfodiad lawenydd mawr i'r brenin.
45 Ymgasglodd y dinasyddion i ganol y ddinas, tua chant ac ugain o filoedd o wŷr, â'u bryd ar ladd y brenin.
46 Ffoes y brenin i'r palas; meddiannodd y dinasyddion strydoedd y ddinas a dechrau ymladd.
47 Galwodd y brenin yr Iddewon i'w gynorthwyo; ymgasglasant i gyd ato ar unwaith, ac yna ymledu ar hyd y ddinas a lladd tua chan mil y dydd hwnnw.
48 Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.
49 Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:
50 “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”