46 Ffoes y brenin i'r palas; meddiannodd y dinasyddion strydoedd y ddinas a dechrau ymladd.
47 Galwodd y brenin yr Iddewon i'w gynorthwyo; ymgasglasant i gyd ato ar unwaith, ac yna ymledu ar hyd y ddinas a lladd tua chan mil y dydd hwnnw.
48 Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.
49 Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:
50 “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”
51 Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.
52 Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.