56 Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.
57 Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”
58 Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.
59 Gosododd ei frawd Simon yn llywodraethwr ar y parthau o Risiau Tyrus hyd at gyffiniau'r Aifft.
60 Aeth Jonathan allan a theithio trwy'r wlad yr ochr arall i'r afon, a'r trefi yno. Ymgasglodd ato holl luoedd Syria, i fod yn gynghreiriaid iddo. Cyrhaeddodd Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w dderbyn yn anrhydeddus.
61 Oddi yno aeth i Gasa, ond caeodd pobl Gasa y pyrth yn ei erbyn. Gwarchaeodd yntau arni a llosgi ei maestrefi â thân, a'u hysbeilio.
62 Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.