1 Clywodd Simon fod Tryffo wedi casglu llu mawr gyda'r bwriad o fynd i wlad Jwda i'w difrodi hi.
2 Pan welodd fod y bobl yn llawn ofn a dychryn, aeth i fyny i Jerwsalem a chynnull y bobl,
3 a'u calonogi â'r geiriau hyn: “Fe wyddoch chwi gynifer o bethau a wneuthum i, a'm brodyr, a thŷ fy nhad, dros y cyfreithiau a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r cyfyngderau a welsom.
4 A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.
5 Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.
6 Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”
7 Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,