21 Ond yr oedd gwŷr y gaer yn anfon cenhadau at Tryffo i bwyso arno i frysio atynt drwy'r anialwch ac i anfon lluniaeth iddynt.
22 Paratôdd Tryffo ei holl wŷr meirch i fynd, ond y noson honno bu eira mawr iawn, ac nid aeth oherwydd yr eira. Ciliodd a mynd i Gilead.
23 Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.
24 Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.
25 Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.
26 Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.
27 Ar feddrod ei dad a'i frodyr adeiladodd Simon gofadail y gallai pawb ei gweld, a'i hwyneb a'i chefn o gerrig nadd.