23 Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.
24 Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.
25 Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.
26 Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.
27 Ar feddrod ei dad a'i frodyr adeiladodd Simon gofadail y gallai pawb ei gweld, a'i hwyneb a'i chefn o gerrig nadd.
28 Cododd hefyd saith o byramidiau, un gyferbyn â'r llall, i'w dad a'i fam a'i bedwar brawd.
29 Cynlluniodd y rhain yn gelfydd, gan osod colofnau mawr o'u hamgylch, ac ar y colofnau lluniodd arfdlysau amrywiol i fod yn goffadwriaeth dragwyddol, a chydag ymyl yr arfdlysau longau cerfiedig y gellid eu gweld gan bawb oedd yn hwylio'r môr.