5 Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.
6 Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”
7 Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,
8 ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.
9 Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”
10 Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.
11 Anfonodd Jonathan fab Absalom, a llu mawr gydag ef, i Jopa; taflodd hwnnw y trigolion allan ac ymsefydlu yno yn y dref.