28 A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.
29 Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid,
30 oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt.
31 Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.
32 Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.
33 A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”
34 Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”