44 Ffurfiasant fyddin, a tharo i lawr bechaduriaid yn eu dicter, a rhai digyfraith yn eu llid; yna ffodd y rhai oedd ar ôl at y Cenhedloedd, er mwyn bod yn ddiogel.
45 Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr,
46 a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel.
47 Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo.
48 Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.
49 Pan nesaodd y dyddiau i Matathias farw, dywedodd wrth ei feibion: “Yn awr aeth balchder a gwaradwydd yn gadarn; amser dinistr a dicter chwyrn yw hwn.
50 Felly, fy mhlant, byddwch selog dros y gyfraith a rhowch eich bywydau dros gyfamod ein hynafiaid.