55 Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.
56 Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.
57 Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.
58 Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.
59 Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.
60 Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.
61 Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.